Gofal Iechyd Meddwl - MHC
Mae Gofal Iechyd Meddwl (MHC) yn ddarparwr annibynnol arbenigol blaenllaw mewn gwasanaethau anableddau dysgu ac iechyd meddwl drwy Ogledd Cymru a Gogledd-Orllewin Lloegr
Mae gan MHC dros 25 mlynedd o brofiad darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, cost effeithiol, gwasanaethau gofal iechyd canlyniadol ac adferol arbenigol i bobl â phroblemau iechyd meddwl, anhwylderau personoliaeth, anableddau dysgu, ymddygiad heriol sylweddol ac anghenion cymhleth cysylltiol.
Ein hethos yw agwedd bositif, cysondeb a dyfalbarhad - sy'n cynnig ymrwymiad a sefydlogrwydd i'r rheiny rydym yn eu cefnogi cyhyd ag y byddant eu hangen. Golyga'r "dycnwch" hwn bod y mwyafrif o bobl yn dangos cynnydd positif, lle nad oedd hyn yn bosibl iddynt cyn hyn, naill ai yn eu cartrefi neu mewn gwasanaethau eraill.
Mae MHC yn rhan o Grŵp Castlebeck sydd â mwy nag 20 mlynedd o brofiad o ddarparu gofal iechyd arbenigol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, anghenion cymhleth ac ymddygiadau sy'n heriol. Am ragor o wybodaeth am Castlebeck, ewch i wefan www.castlebeck.com

