"Gofal iechyd ac adferiad arbenigol wedi’i ffocysu ar ganlyniadau"

Eiriolaeth

Darparwr Annibynnol o wasanaethau eiriolaeth arbenigol yw Profiad Eiriolaeth (Advocacy Experience), ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Mae’r gwasanaeth annibynnol, cyfrinachol hwn ar gael i holl ddefnyddwyr gwasanaeth yr MHC, ac yn anelu at gefnogi unigolion i’w helpu i fynegi eu hunain a/neu gynrychioli eu barn, ac felly helpu i hybu cynhwysiad cymdeithasol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

Mae Profiad Eiriolaeth ar gontract i roi gwasanaeth annibynnol, ac nid ydynt yn rhan o’r tîm staff MHC. Felly, maent yn gweithio dros y defnyddiwr gwasanaeth yn unig. Mae’r gwasanaeth yno i roi llais i’r defnyddiwr gwasanaeth, a hybu ei hawliau. Mae’n annog cyfathrebu a hybu dewis wrth i unigolyn wneud penderfyniadau ynglŷn â’i ofal a’i driniaeth.

Mae’r eiriolwr yn rhoi ‘cyfarwyddyd’ i’r cleifion, ond nid yw bob tro er eu lles pennaf; mae’n sianelu barn y cleifion yn hytrach na’i hanwybyddu; ei nod yw cefnogi pobl a rhoi’r grym iddynt symud at hunan-eiriolaeth, ac mae’n cefnogi pobl i ddatrys problemau ar y lefel isaf. Mae eiriolwyr yn aml yn bresennol ar rownd wardiau ac mewn cyfarfodydd DRhG yn Ysbytai Annibynnol yr MHC.