"gofal iechyd ac adferiad arbenigol wedi’i ffocysu ar ganlyniadau"
Llwybrau a Chynlluniau Gofal
Mae MHC yn cydnabod bod pob defnyddiwr gwasanaeth a chlaf, yn unigolyn yn ei rinwedd ei hun gydag anghenion penodol a chymhleth ei hun.
Ein nod, drwy becynnau gofal i’r unigolyn, yw darparu amrediad o gefnogaeth angenrheidiol er mwyn caniatáu’r unigolyn i gael y canlyniad mwyaf positif iddo ef/hi.
Gallai hyn fod drwy lwybr gofal sy’n eu dychwelyd i fywyd annibynnol a chyflogaeth neu i amgylchedd cefnogol lle gallant gael mynediad i’r holl wasanaethau a gynigir gan y gymuned, ond hefyd fanteisio ar gefnogaeth staff pan fo angen.
Er mwyn gallu gwneud y dilyniant hwn, mae MHC yn cynnig gwasanaethau preswyl cam-i-lawr i greu cyfleoedd i bobl barhau ar hyd eu llwybr eu hunain ar gyflymdra sy’n addas ar eu cyfer hwy.
Mae llwybr gofal pob unigolyn yn cael ei fonitro a’i werthuso ag adolygiadau cynnydd a chanlyniadau yn rheolaidd gyda’r unigolyn ei hun, rheolwyr gofal, aelodau o’r teulu, eiriolwyr ac eraill. Mae MHC yn gweithio mewn partneriaeth agos ag awdurdodau lleol a chomisiynwyr gofal iechyd.

