"gofal iechyd ac adferiad arbenigol wedi’i ffocysu ar ganlyniadau"

Dull Clinigol

Mae MHC yn darparu gofal, triniaeth a chefnogaeth 24-awr - a ddarperir gan nyrsys arbenigol sydd wedi eu hyfforddi i weithio gyda phobl sydd ag anableddau dysgu.  Maen nhw’n cael eu cefnogi gan staff gofal rhagorol a phrofiadol.

Mae ein timau o seiciatryddion, seicolegwyr, therapyddion galwedigaethol a therapyddion iaith a lleferydd yn darparu adnodd ymgynghori ar gyfer staff rheng flaen, yn ogystal â gweithio’n uniongyrchol gyda’r defnyddwyr eu hunain.