"gofal iechyd ac adferiad arbenigol wedi’i ffocysu ar ganlyniadau"

Safonau Sefydlu Cyffredinol

Mae ein hymrwymiad i gefnogi staff yn dechrau gyda rhaglen sefydlu ddwys yn ystod y bythefnos gwaith cyntaf.  Rhan o’r rhaglen sefydlu hon fydd cael gweithwyr i gwblhau’r Safonau Sefydlu Cyffredinol ’Sgiliau ar gyfer Gofal’ sydd wedi eu cynllunio ar gyfer pobl sy’n dechrau gweithio gyda gofal cymdeithasol i oedolion.  Bydd cyfnod y cwrs SSC 12-wythnos, yn rhoi cyfle i weithwyr gofal roi cefnogaeth a gofal o ansawdd uchel, derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith, a’u paratoi ar gyfer mynediad i raglenni Iechyd a Gofal Cymdeithasol NVQ

Mae 6 safon, a rhaid i staff ddangos cymhwysedd a dealltwriaeth yn y meysydd canlynol;  (1) Deall egwyddorion gofal; (2) Deall cyfundrefn a rôl y gweithiwr, (3) Cadw’n ddiogel yn y gweithle; (4) Cyfathrebu’n effeithiol; (5)Adnabod ac ymateb i  gamdriniaeth ac esgeulustod; a (6) Datblygu fel gweithiwr.