"Dros 25 mlynedd o brofiad o ddarparu gofal iechyd arbenigol sydd o ansawdd uchel, ac yn gost effeithiol"
Highfield House
Grŵp Cleientiaid a Meini Prawf Derbyn
Y meini prawf derbyn yw defnyddwyr gwasanaeth gyda diagnosis sylfaenol o anabledd dysgu/nam meddyliol gydag ymddygiadau cymhleth sy’n gofyn am wasanaeth cefnogi dwys. Rheolir y broses cyn-dderbyn drwy dîm lleoli’r MHC. Nod y gwasanaeth ydi cefnogi, sefydlogi a darparu llwybr gofal i fodelau gofal ‘bywyd cyffredin’ eraill o fewn adnoddau presennol yr MHC. Derbynnir pawb am dymor byr a chanolig.
Y Gwasanaeth a’r Tîm Staff
Mae gan Highfield House wasanaeth chwe gwely preswyl cefnogi dwys i ddefnyddwyr gwasanaeth gydag anableddau dysgu, ac efallai’n dangos ymddygiadau cymhleth a heriol tuag at eu hunain, at eraill, ac at wasanaethau. Fel Gwasanaeth Cefnogi Dwys, bydd Highfield House yn gam-i-fyny i ddefnyddwyr gwasanaeth sydd ag anghenion cymhleth neu sy’n dioddef o ailwaelu. Mae hefyd yn cynnig cyfleusterau cam-i-lawr i ddefnyddwyr gwasanaeth a ryddhawyd o’r ysbyty yn ôl Adran 17 Caniatâd Absenoldeb, neu Orchymyn Gwarcheidwaeth (Deddf Iechyd Meddwl 1983).
Bydd Highfield House yn darparu llwybr gofal i integreiddio gwasanaethau presennol a’r rhai yn y dyfodol gan gynnwys gweithgareddau dydd ystyrlon.
Bydd Highfield House wrth wraidd y llwybr gofal i unigolion gydag anableddau dysgu ac ymddygiadau cymhleth. Bydd y model gofal hwn yn golygu dull y system gyfan, a llwybr gofal y gellir ei ail-gyflwyno ar gamau adfer gwahanol, yn ôl anghenion clinigol yr unigolyn.
Mae’r gwasanaeth yn darparu rhwyddineb a chynllun wrth gefn mewn argyfwng, sy’n caniatáu darparu gwasanaeth datrysiad effeithiol o fewn strwythurau gwasanaeth y Cwmni ar gyfer y grŵp cymhleth hwn o bobl.

