"Mae’r defnyddwyr gwasanaeth yn dangos cynnydd positif"
Hillside View
Grŵp Cleientiaid a Meini Prawf Derbyn
Cartref i 2 berson ydi Hillside View ar gyfer dynion ag anableddau dysgu canolig ac anhwylderau sbectrwm awtistig.
Mae MHC wedi cynnig help a chefnogaeth yn gyson i bobl gydag awtistiaeth, a’u teuluoedd. Mae’n wasanaeth sydd wedi bod, ac yn parhau i fod yn hygyrch, yn ddibynadwy ac yn un y gellir ymddiried ynddo i wneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl.
Mae ein gwasanaethau’n cynnig gofal a chefnogaeth i unigolion sydd rhwng 18-65 oed, wedi eu diagnosio o fewn yr amrediad llawn o anhwylderau sbectrwm awtistig.
Y Gwasanaeth a’r Tîm Staff
Mae’r tîm staff yn cael ei gefnogi, ei hyfforddi a’i hannog i barchu gwahaniaethau cymdeithasol, cyfathrebol a synhwyraidd pobl yn ogystal ag agweddau eraill o’u bywyd bob dydd a’u hanghenion ymddygiadol. Cefnogir hyn ymhellach gan y tîm amlddisgyblaethol, yn cynnwys Seiciatrydd Ymgynghorol, Seicolegydd Clinigol, Nyrs Glinigol Arbenigol, Therapydd Galwedigaethol a’r tîm cefnogi llawn yn ôl yr angen.
Cefnogwn y prif themâu, sef iechyd, cynhwysiad cymdeithasol, dewis a rheolaeth, codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant, a mynediad i hyfforddiant a chyflogaeth.

