"gofal iechyd ac adferiad arbenigol wedi’i ffocysu ar ganlyniadau"

Holland House

Grŵp Cleientiaid a Meini Prawf Derbyn

Mae Holland House a’i gylch-gartrefi wedi ei gofrestru ar gyfer darparu gofal i hyd at 11 oedolyn sydd â diagnosis sylfaenol o anhwylder meddwl, fel seicosis a achosir gan alcohol a chyffuriau, sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn.  Mae nifer o’r defnyddwyr gwasanaeth hefyd yn dangos ymddygiadau fel hunan-niwed.

Fel Avalon, mae hefyd yn darparu gwasanaeth cam-i-lawr ar gyfer cleifion o’n hysbytai annibynnol sy’n barod i symud ymlaen i fyw bywyd mwy annibynnol fel rhan o’u rhaglen adfer.

Y Gwasanaeth a’r Tîm Staff

Nod Holland House yw adfer defnyddwyr gwasanaeth i fywyd cymunedol llawn.  Mae’r gwasanaeth preswyl hwn yn cynnig rhaglenni strwythuredig therapiwtig i helpu’r broses adfer hon trwy alluogi defnyddwyr gwasanaeth i gael mynediad i addysg bellach a lleoliadau gwaith ystyrlon ac ymarferol. Maen nhw’n datblygu sgiliau a strategaethau i’w helpu i gyrraedd eu potensial llawn mewn lleoliad sydd fwyaf addas iddyn nhw.

Drwy ehangu eu rhwydwaith o ffrindiau a chydweithwyr, maen nhw’n gallu datblygu eu sgiliau cymdeithasol i’w helpu i fyw bywyd llawn a diddorol.

Mae’r tîm staff yn Holland House wedi ei symbylu, ac yn brofiadol wrth ddelio ag anghenion amrywiol y grŵp cleientiaid.  Maen nhw’n derbyn hyfforddiant sydd wedi ei deilwrio i reoli ymddygiadau cymhleth ac yn cydweithio’n agos â’r tîm clinigol er mwyn cynllunio strategaethau unigol i helpu ymdopi a’r rheiny sy’n herio’r gwasanaeth.

Cliciwch yma am ein proses gyfeirio