"Lleoliadau o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar greu’r amgylcheddau therapiwtig gorau"
Cefnogi Dwys
Trosolwg
Mae gwasanaethau Cefnogi Dwys MHC yn darparu'r lefel nesaf o gefnogaeth i helpu pobl newid o amgylcheddau triniaeth ddwys, fel gwasanaethau ysbytai, i leoliadau mwy cymunedol. Bydd hyn yn datblygu yn ôl angen a dymuniad yr unigolyn a'i botensial ar gyfer gwella.
Grŵp Cleientiaid a Meini Prawf Mynediad
Mae gwasanaethau preswyl Cefnogi Dwys MHC yn darparu model o ofal a chefnogaeth holistig i ddefnyddwyr gwasanaeth, yn ddynion a merched rhwng 18-65 oed. Bydd unigolion sy'n cael eu derbyn i'r gwasanaethau hyn â diagnosis sylfaenol o anableddau dysgu, ac hefyd yn dangos ymddygiadau heriol.
Y Gwasanaeth a’r Tîm Staff
Mae’r tîm staff yn brofiadol mewn cefnogi unigolion ar adegau o'u hangen mwyaf, yn ogystal â’u helpu i gyrraedd eu hamcanion o ddydd i ddydd. Cefnogir yr unigolion hefyd gan y Tîm Amlddisgyblaethol Clinigol, sy’n helpu drwy roi sefydlogrwydd pan fydd ei angen fwyaf.
Gwasanaethau Preswyl:
- Holly - Gwasanaeth Preswyl Cefnogi Dwys cymysgryw ar gyfer 8 o bobl. Bydd Holly yn helpu yn natblygiad llwybrau gofal y defnyddwyr gwasanaeth drwy sefydlu eu hanghenion a'u diffygion. Mae hyn yn help i benderfynu pa gefnogaeth ac amgylchedd fyddai fwyaf addas ar gyfer yr unigolyn. Gallai hyn fod yn gam-i-lawr i wasanaethau Gofal Dwys eraill neu newid i wasanaeth adnabyddedig arall.
- Highfield House – cartref ar gyfer 6 o ddynion ag anableddau dysgu ysgafn – canolig ac ymddygiadau cymhleth heriol
- Orchard – llety ar ddull fflatiau-4 sengl ac un dwbl, ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ysgafn-canolig, sy’n ei chael hi’n anodd rhannu llety oherwydd cyflwr clinigol neu anghenion adferol
- Rockfield - gwasanaeth cymysgryw ar gyfer 10 o bobl sy’n darparu cefnogaeth arbenigol iawn wedi ei llunio’n benodol ar gyfer oedolion y mae eu hymddygiadau wedi herio gwasanaethau eraill i’r fath raddau eu bod wedi methu.

