"Y dull CDERTGC lle gall pawb ohonom helpu i wireddu gobeithion, breuddwydion a llwyddiannau pobl"

Ivy Cottage

Grŵp Cleientiaid a Meini Prawf Derbyn

Mae Ivy Cottage yn gartref cymysgryw ar gyfer 4 o bobl, ac mae’n cynnig gofal tymor canolig i dymor hir. Mae unigolion sy’n cael eu lleoli yma ag anableddau dysgu canolig, gydag efallai ddiagnosis cyd-forbid e.e. problemau iechyd meddwl ac ymddygiadau cymhleth.

Y Gwasanaeth a’r Tîm Staff

Fel Gwasanaeth Cefnogi Awtistiaeth, bydd Ivy Cottage yn wasanaeth ‘cam-i-fyny’ i ddefnyddwyr gwasanaeth ag anghenion cymhleth. Gall y llwybr i’r gwasanaeth hwn fod o wahanol ffynonellau, o wasanaethau lleol ac ehangach ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth presennol sy’n dioddef ailwaelu neu bod eu cyflwr clinigol yn mynd yn fwy cymhleth. Gall y gwasanaeth hwn gael ei ddefnyddio fel cyfleuster ‘cam-i-lawr’ i ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n dod o Ysbytai â gwasanaethau o dan Adran 17 Caniatâd Absenoldeb neu Orchymyn Gwarcheidwaeth (Deddf Iechyd Meddwl 1983).

Bydd Ivy Cottage yn darparu llwybr gofal i integreiddio gwasanaethau preswyl presennol â’r rhai yn y dyfodol yn cynnwys gweithgareddau dydd ystyrlon.