"gofal iechyd ac adferiad arbenigol wedi’i ffocysu ar ganlyniadau"
Trosolwg
Mae Gofal Iechyd Meddwl (MHC) yn ddarparwr gwasanaethau sector annibynnol blaenllaw, arbenigol, mewn iechyd meddwl, iechyd meddwl fforensig ac anableddau dysgu o fewn ysbytai annibynnol a gwasanaethau preswyl.
Wedi ei ganolbwyntio ar adferiad a chefnogaeth, ein nod yw rhoi gwasanaeth o ansawdd sydd yn cwrdd ag anghenion cleifion, cleientiaid a phrynwyr. Cyflawnwn hyn drwy roi pwyslais ar anghenion dynol sylfaenol e.e. perthynas rhyngbersonol, gonestrwydd ac urddas.
Rydym ni'n dal i fuddsoddi mewn datblygu gwasanaethau newydd fel ymateb i anghenion defnyddwyr gwasanaethau a gofynion y diwydiant gofal. Daliwn i fod yn flaengar yn ein dull o gyflenwi gwasanaethau arbenigol mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Rydym ni'n arbenigo mewn helpu pobl i addasu ac ymdopi â'u hanghenion a'u hymddygiadau cymhleth.
Mae gan MHC dros 25 mlynedd o brofiad mewn darparu gwasanaethau cost effeithiol o ansawdd uchel, gwasanaethau gofal iechyd arbenigol, canlyniadol ac adferol i bobl â phroblemau iechyd meddwl, anhwylderau personoliaeth, anableddau dysgu, ymddygiadau heriol arwyddocaol, ac anghenion cymhleth cysylltiol.
Mae MHC yn ymfalchïo yn yr hyn a alwn ni yn 'ddycnwch', sydd yn golygu agwedd bositif, cysondeb a dyfalbarhad, a thimau staff sy’n cynnig ymrwymiad a sefydlogrwydd i'r rheiny rydym yn eu cefnogi, cyhyd ag y byddant ei angen.
Oherwydd y dull hwn, mae mwyafrif y cleifion a'r defnyddwyr gwasanaeth yn dangos cynnydd positif lle nad oedd hyn yn bosibl o'r blaen o fewn eu hamgylchedd cartref neu mewn gwasanaethau eraill.

