"gofal iechyd ac adferiad arbenigol wedi’i ffocysu ar ganlyniadau"

Rhychwant Oes

Trosolwg

O fewn gwasanaethau Rhychwant Oes MHC, ein nod yw darparu amgylchedd parchus, ymlaciol a chyfeillgar - rhywbeth mae’r rheolwyr cartref a’r tîm staff yn ei hyrwyddo bob amser. Mae mabwysiadu dull proffesiynol ond ymlaciol, yn ein galluogi i gyfoethogi bywydau’r unigolion o fewn y gwasanaethau hyn.

Y Gwasanaeth a'r Tîm Staff

Nod y tîm staff yw darparu’r gofal a’r gefnogaeth briodol ac angenrheidiol ar gyfer darparwyr gwasanaeth er mwyn eu galluogi i fwynhau bywyd cymdeithasol diddorol ac ystyrlon. Mae gan y tîm staff cryf o fewn y gwasanaethau hyn nifer o flynyddoedd o brofiad o weithio gyda’r grŵp cleient bregus hwn, ac maen nhw’n cael eu cefnogi’n llawn gan dîm amlddisgyblaethol profiadol iawn MHC. Mae hyn yn cynnwys: Seiciatrydd Ymgynghorol, Seicolegydd Clinigol, Nyrs Glinigol Arbenigol a Therapydd Galwedigaethol.

Mae cynlluniau gofal unigol a strategaethau rheoli risg yn ceisio rhoi’r cyfleoedd gorau posibl i'r grŵp cleientiaid hwn, er mwyn iddynt fedru ‘byw bywyd i’r eithaf’.

Mae’r tîm yn helpu i ddatblygu a hyrwyddo sgiliau byw bob dydd a bod yn rhan o gymuned, ac yn rhoi'r teimlad o ddilyniant a sefydlogrwydd i’r defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r staff yn defnyddio dulliau cyfathrebu di-eiriau megis Makaton a byrddau darluniol, i oresgyn unrhyw anawsterau cyfathrebu y gallai fod gan y defnyddwyr.

Gwasanaethau Preswyl:

Grove Hall

Mae Grove Hall yn cofleidio’r egwyddor athronyddol o 'gartref am byth' drwy ddarparu gwasanaeth ar gyfer 21 oedolyn ag anableddau dysgu, sydd dros 50 oed. Mae’r defnyddwyr gwasanaeth yn cael cefnogaeth i gynnal eu hiechyd corfforol eu hunain drwy ddefnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol, gwasanaethau nyrsio ardal a gwasanaethau arbenigol, megis niwroleg.

Acrefield House

Mae Acrefield House yn gartref cofrestredig ar gyfer 12 oedolyn cymysgryw, rhwng 18-65 oed. Mae pobl sy’n cael eu derbyn i Acrefield House ag amrediad o anableddau dysgu canolig i ddifrifol. Gallant fod ag anableddau corfforol ychwanegol neu anghenion iechyd meddwl hefyd.