"Agwedd bositif, gyson a dyfal"
Gwasanaeth Cadarn Isel
Ysbyty Annibynnol New Hall– Gwasanaeth Cadarn Isel
Mae gwasanaeth cadarn isel newydd yn New Hall i fod i agor yn gynnar yn haf 2010. Bydd y gwasanaeth yn gwella llwybr gofal presennol New Hall, a sicrhau bod cleifion yn cael mynediad i’r gofal a’r driniaeth fwyaf effeithiol mewn amgylchedd adeilad-pwrpasol. Bydd yr estyniad hwn i’r Ysbyty yn rhoi cyfle i’r comisiynwyr gefnogi cleifion, sydd ar hyn o bryd, un ai mewn lleoliadau eraill yn Ne Cymru neu Loegr, i ddod yn ôl i Ogledd Cymru i fyw yn agosach at eu cartrefi, teuluoedd, a ffrindiau wrth gael triniaeth ac adferiad.
Grŵp Cleientiaid a Meini Prawf Derbyn
Bydd gwasanaeth cadarn isel New Hall yn cynnig gofal a thriniaeth ddwys, amlddisgyblaethol ar gyfer 10 claf gwrywaidd rhwng 18- 65 oed, sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol a pharhaus, ac sydd angen diogelwch. Gallai’r unigolion hyn fod yn gadael gwasanaeth cadarn canolig ac yn cael eu cadw dan Ddeddf Iechyd Meddwl. Bydd hefyd yn cynnig gwasanaeth i gleifion sydd â chyflyrau eilaidd yn cydfodoli fel anghenion fforensig, anawsterau ymddygiadol, anhwylder personoliaeth a phroblemau alcohol a chyffuriau. Bydd derbyniad i wasanaeth cadernid isel New Hall yn seiliedig ar gyfnod asesu cychwynnol o 12 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn bydd y tîm amlddisgyblaethol yn gwneud asesiad manwl o anghenion pob unigolyn cyn penderfynu ar y llwybr gofal mwyaf addas.
Model Gwasanaeth
Mae athroniaeth gofal New Hall yn seiliedig ar egwyddorion adfer, gwella a chynhwysiad cymdeithasol, ac yn canolbwyntio ar wella cryfderau a gwytnwch yr unigolion a’u teuluoedd.
Mae gan New Hall dîm clinigol amlddisgyblaethol, profiadol iawn, sy’n cynnwys:
- Seiciatrydd Ymgynghorol
- Seicolegydd Clinigol
- Nyrs Glinigol Arbenigol
- Therapydd Galwedigaethol
- Gweithiwr Cymdeithasol

