"gofal iechyd ac adferiad arbenigol wedi’i ffocysu ar ganlyniadau"
Iechyd Meddwl
Mae ysbytai iechyd meddwl MHC yn cofleidio egwyddorion y Dull CDERTGC gan danategu hyn gydag ymyriadau seicotherapiwtig unigol drwy sesiynau unigol a grŵp, gydag aelodau o’r tîm amlddisgyblaethol a nyrsys â sgiliau therapiwtig penodol.
Bydd gan bob claf raglen ddyddiol strwythuredig, clir fydd yn rhaid iddyn nhw ymrwymo iddi. Mae hyn yn cynnwys therapi gydag elfennau o Raglen 24/7, a byddwn yn sicrhau hefyd bod anghenion iechyd meddwl a chorfforol cyffredinol y claf yn cael eu diwallu.

