"Mae llwybrau gofal yn cael eu monitro a’u hadolygu drwy’r amser"
Anabledd Corfforol
Furze Mount
Mae Furze Mount yn wasanaeth sefydledig ar gyfer unigolion a all fod â phroblemau synhwyraidd, cyfathrebol a chorfforol, ynghyd ag anableddau dysgu. Mae’r cartref yn annog unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, addysgol a chymunedol.
Grŵp Cleientiaid a Meini Prawf Derbyn
Trwy ein gwasanaeth arbenigol iawn yn Furze Mount, mae MHC yn darparu gofal a chefnogaeth ar gyfer 19 defnyddiwr gwasanaeth, yn ferched a dynion, 18-65 oed, sydd ag anableddau dysgu canolig i ddifrifol. Mae gan nifer ohonynt hefyd anableddau synhwyraidd a chorfforol.
Y Gwasanaeth a'r Tîm Staff
Oherwydd cymhlethdodau rhai o’r unigolion yn Furze Mount, mae’r grŵp cleientiaid hwn yn fregus iawn ac angen mewnbwn uchel iawn gan y tîm staff. Mae gan y tîm staff yn Furze Mount brofiad i gwrdd ag anghenion oedolion sydd â chyflyrau fel:
- Epilepsi
- Anawsterau Cyfathrebu
- Amddifadiad synhwyraidd
- Awtistiaeth
- Parlys Cerebrol
- Syndrom Retts
- Anymataliad
Un o brif amcanion Furze Mount yw darparu amgylchedd cartrefol a sefydlog ar gyfer unigolion. Mae’r staff yn defnyddio’u sgiliau arbenigol er mwyn galluogi defnyddwyr gwasanaeth i fwyhau eu potensial a chael y mwynhad mwyaf allan o fywyd. Mae gan y defnyddwyr gwasanaeth fynediad i amgylcheddau colegau lleol yn Rhyl a Llandrillo, Pwll Hydrotherapi Leonard Cheshire lleol, a mynediad i’r pwll nofio yn Llandudno (sydd â darpariaeth ar gyfer unigolion sydd angen teclynnau codi ayb). Mae’r preswylwyr yn mwynhau gweithgareddau fel marchogaeth ceffylau a beicio i’r anabl.
Mae gan nifer o ddefnyddwyr gwasanaeth yn Furze Mount anawsterau cyfathrebu geiriol, ac felly er mwyn iddyn nhw fedru rhyngweithio ag eraill a gwneud dewisiadau am eu gweithgareddau dyddiol, mae’r staff yn defnyddio cyfathrebu di-eiriau fel Makaton (arwydd a symbol) a byrddau darluniol. Mae’r amgylchedd wedi ei chymhwyso i gefnogi unigolion trwy ddefnyddio teclynnau codi, teclynnau codi gantri, a defnyddir lifft ar gyfer rhai preswylwyr.

