"gofal iechyd ac adferiad arbenigol wedi’i ffocysu ar ganlyniadau"
Model Adfer
Mae Ysbyty Annibynnol New Hall yng nghyfnod cyntaf defnyddio’r dull gwella ar draws ei lwybrau gofal. Mae ein gwasanaeth yn defnyddio egwyddorion gwellhad, yn canolbwyntio ar adfer a lles positif. Diben cyflwyniad ffurfiol y model gwellhad yw adeiladu ar ein hagwedd holistig presennol ar gyfer lles meddwl yr unigolyn.
Yn New Hall rydym yn deall nad yw gwellhad yn golygu "iachâd”. Mae’n golygu bod unigolion yn gweld eu hunain â’r gallu i wella yn hytrach na derbynyddion goddefol o wasanaethau ac ymyriadau. Mae New Hall yn cynnig triniaeth a gofal dull holistig i gleifion, i'w galluogi i wella’r holl elfennau yn eu bywydau sy’n effeithio ar les eu meddwl. Mae gan rai cleifion angen cymorth ac ymyriadau un i un e.e. rheoli dicter, ond efallai hefyd bod angen cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd, fel sgiliau domestig, datblygu eu gallu rhifedd a llythrennedd sydd efallai heb eu defnyddio neu sy’n gwsg ers amser. Yn y bôn, rydym yn parchu arbenigrwydd pobl sy’n gwybod beth sydd o gymorth.
Pwynt cychwynnol New Hall yw deall bod y gair 'gwellhad' yn golygu pobl yn gweld eu hunain yn gallu gwella; mae hyn yn rhoi’r cyfle i ni gydweithio gyda nhw. Rydym yn deall fod gan bawb ran i chwarae yn y broses hon, yn cynnwys y tîm amlddisgyblaethol, sy’n rhoi cyfleoedd i’r cleifion arwain eu taith drwy wellhad. Yn y pen draw rydym yn parchu hawliau unigolion i ddewis y llwybr gwella.
Nod New Hall yw helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i feddwl y tu hwnt i syniadau goroesi a bodoli traddodiadol, drwy eu hannog a’u cefnogi i symud ymlaen, datblygu sgiliau, gwneud gweithgareddau dyddiol a datblygu perthnasau sy’n rhoi ystyr i’w bywydau. Rydym yn rhoi mwy o amser i bobl, i wrando, i siarad a gwneud pethau gyda’n gilydd.
Er nad oes gan bobl reolaeth lawn dros eu symptomau, mae ein dull gwella yn pwysleisio y gallan nhw gael rheolaeth lawn dros eu bywydau a’u dyfodol. Mae iechyd meddwl ac agweddau cymdeithasol tuag at afiechyd meddwl yn aml yn gosod cyfyngiadau ar bobl sy’n dioddef o'r afiechyd. Mae gwellhad yn edrych y tu hwnt i’r cyfyngiadau hyn er mwyn helpu pobl i gyrraedd eu nodau a’u dyheadau - mae gwellhad yn golygu tyfiant personol a datblygu gwytnwch. Rydym yn cydnabod effaith stigma ac anghydraddoldeb cymdeithasol, ac rydym yn gweithio gydag unigolion i herio’r rhain. Mae New Hall yn annog defnyddio eiriolaeth ac yn rhoi grym i unigolion trwy roi cyfleoedd iddyn nhw wneud gweithgareddau yn yr ysbyty trwy fforymau cleifion a gweithdai.

