"gofal iechyd ac adferiad arbenigol wedi’i ffocysu ar ganlyniadau"
Adferiad
Trosolwg
Trwy nifer o’n gwasanaethau cefnogi preswyl, nod MHC yw adfer defnyddwyr gwasanaeth i fyw’n llawn yn y gymuned, drwy ddarparu cefnogaeth a hyrwyddo datblygiad sgiliau unigol. Cyflawnir hyn drwy asesiad risg, datblygu hunanddelwedd bositif a chynyddu hyder. Trwy helpu i ddatblygu rhwydwaith o ffrindiau’r unigolyn a chefnogaeth, cynorthwyir y defnyddiwr gwasanaeth i ddatblygu bywyd ystyrlon a chyflawn.
Grŵp Cleientiaid a Meini Prawf Mynediad
Mae gwasanaethau preswyl cefnogi adferiad MHC yn darparu gofal a chefnogaeth ar gyfer defnyddwyr gwrywaidd a benywaidd, 18-65 oed. Bydd gan yr unigolion a all gael eu derbyn i’r gwasanaethau hyn, ddiagnosis sylfaenol anableddau dysgu ac yn dangos ymddygiadau heriol hefyd.
Y Gwasanaeth a’r Tîm Staff
Mae gwasanaethau o fewn ffrwd Cefnogi Adferiad MHC yn cynnig rhaglenni strwythurol a therapiwtig i gynorthwyo’r broses adfer drwy alluogi’r defnyddwyr gwasanaeth i gael mynediad i addysg bellach a lleoliadau gwaith ystyrlon.
Mae’r tîm staff yn ymateb i anghenion cyfnewidiol defnyddwyr gwasanaeth, a bydd y staff yn amrywio eu dull gofal yn unol â hynny, er mwyn cefnogi’r rheiny sydd eu hangen. Mae ein staff yn frwdfrydig iawn, yn dangos cariad at y gwaith ac yn brofiadol wrth ddelio ag anghenion amrywiol y grŵp cleientiaid hwn.
Gwasanaethau Preswyl:
- Larch - cartref cymysgryw, i 6 unigolyn, sy’n darparu gofal a chefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth ag anableddau cymedrol i ganolig gyda rhai â diagnosis cyd-forbid. Mae’r cartref yn cynnig preswyl tymor canolig i dymor hir
- Rose - cartref i 3 unigolyn, sy’n darparu cefnogaeth breswyl ddwys ar gyfer unigolion sydd ag anableddau dysgu, ac a all ddangos ymddygiadau heriol, cymhleth, tuag at eu hunain ac eraill
- Pine - yn cynnwys 4 Bwthyn teras sy’n darparu gwasanaeth i hyd at 4 unigolyn, mewn amgylchedd domestig, cartrefol
- The Lodge - cartref benywaidd i 3 unigolyn, sy’n lletya defnyddwyr gwasanaeth ag anableddau dysgu canolig gyda rhai â diagnosis cyd-forbid. Mae’n gartref preswyl tymor canolig i dymor hir
- Avalon – Gwasanaeth cymysgryw, cymunedol, ar gyfer hyd at 6 oedolyn gyda diagnosis sylfaenol o anableddau dysgu, ac efallai, problemau iechyd meddwl cysylltiol

