"Mae pob defnyddiwr gwasanaeth a chlaf yn unigolyn yn ei hawl ei hun"

Siarter Staff

Os ydych chi’n gweithio i MHC, gallwch ddisgwyl bod agwedd y cwmni o Ymrwymiad, Datblygiad a Gwerth yn addas i chi.

Ymrwymiad – Rydym wedi ymrwymo i ddarparu lle gwych i weithio ac rydym yn gyflogwr o ddewis.

Datblygiad – Byddwch â’r gallu i gael cefnogaeth a chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol.

Gwerth - Byddwch yn teimlo’n rhan o dîm fydd yn dangos parch at eich cyfraniad a’ch ymrwymiad i’n gwasanaethau.

Amlygir yr amcanion hyn drwy nifer o weithgareddau fyddwch yn ei wneud wrth weithio, yn cynnwys rhaglenni sefydlu, adolygiadau a goruchwyliaeth. Drwy gydol eich datblygiad, cewch eich trin â pharch ac urddas, a chewch gefnogaeth gan eich rheolwr a’ch cyd-weithwyr er mwyn i chi ragori yn eich rôl.  Yn ein tro, byddwn ni’n disgwyl eich ymrwymiad a’ch syniadau chi i sicrhau bod yr agwedd hon i’w weld yn eraill.