"gofal iechyd ac adferiad arbenigol wedi’i ffocysu ar ganlyniadau"
Dull CDERTGC 'Cyflawni Datblygiad Effeithiol Realistig Trwy Gymorth Cefnogi'
Model gofal yw Dull CDERTGC MHC sy’n seiliedig ar wyth proses neu gam sy’n sail i gynllun gofal effeithlon a chyson. Ystyr C.D.E.R.T.G.C yw Cyflawni Datblygiad Effeithiol Realistig Trwy Gymorth Cefnogi, a dyna beth a wnawn. Adnodd pwysicaf MHC yw ei bobl, ac mae pawb yn MHC wedi eu hyfforddi yn y Dull CDERTGC. Rydym yn parhau i hyfforddi ein staff fel eu bod yn gallu datblygu a pharhau i ddarparu gofal o ansawdd trwy rannu gwybodaeth a phrofiad gyda’r unigolion rydym yn eu cefnogi.
Yr wyth cam yw Asesiad, Amcanion, Strategaeth, Cynllun, Adnoddau, Gweithredu, Gwerthuso ac Argymell.
Nid yw pob dull yn addas i bawb a thrwy ddysgu a deall y Dull CDERTGC, gall pawb ohonom helpu i wireddu gobeithion, breuddwydion a llwyddiannau pobl.
Asesiad
Pan mae pobl yn dod at MHC rydym yn dod i wybod cymaint â phosibl amdanyn nhw.
• Gallu • Sgiliau • Profiadau • Iechyd • Anghenion
Mae hyn yn cynnwys: hanes teulu, trefniadau byw blaenorol, hanes sialensiau, ffactorau atal hysbys, iechyd meddyliol a chorfforol; triniaethau ac ymyriadau sydd wedi gweithio. Mae’n bwysig yn ystod yr asesiad, ein bod yn talu sylw i allu a mewnwelediad pob unigolyn, eu huchelgeisiau a’u hamcanion personol, ond yn bennaf oll beth yw hawl pawb i: breifatrwydd, urddas a gofal. O hyn medrwn greu cynllun person-ganolog cywir.
• Does dim angen i gynllun fod wedi ei gysylltu ag anghenion cymdeithasol na chlinigol unigolyn. Yn syml, gall fod yn ddymuniad personol, sialens, uchelgais neu freuddwyd.
Amcanion
Mae’r Dull CDERTGC wedi ei ddatblygu oherwydd ein bod yn deall bod gan y bobl rydym ni'n eu cefnogi yn MHC angen dealltwriaeth, tosturi ac ymrwymiad i ddatblygu. Rydym ni'n sylweddoli hefyd bod y staff sy’n cyfathrebu’n briodol â dealltwriaeth lawn o ymddygiad unigolyn, yn cael y canlyniadau mwyaf llwyddiannus.
• Mae’r Dull CDERTGC yn ddyletswydd gofal, sy’n seiliedig ar ddull unigol a ymchwiliwyd iddo, ac mae tystiolaeth ei fod yn gweithio. • Rydym yn chwilio am y dull mwyaf cyfforddus i’r rheiny rydym yn eu cefnogi, lle nad oes bygythiad na chosb - awgrymedig neu fel arall. Yn syml, rydym yn gweithredu er lles pennaf yr unigolyn. • Rydym yn defnyddio’r dulliau lleiaf cyfyngol sy’n caniatáu preifatrwydd, rhyngweithiad a’r rhyddid sydd eu hangen ar yr unigolyn mewn amgylchedd sy’n addas i’w hanghenion.
Strategaeth
Mae’r strategaeth rydym yn ei defnyddio i weithredu’r Dull CDERTGC yn gydbwysedd rhwng yr amgylchedd, gwobrwyo ymddygiad positif a therapi strwythuredig. Er mwyn galluogi integreiddio cymdeithasol, edrychwn ar y ffactorau canlynol:
• Ydi’r amgylchedd yn addas o ran oed, yn therapiwtig, yn ymarferol ac o ddewis • Sut i wobrwyo ymddygiad positif ac ymdrech, edrych ar reoli sbardunau • Datblygu sgiliau byw, cyfathrebu a chymdeithasu, gan ddefnyddio cyfarwyddyd systemig dros amser • Datblygu strategaethau ymdopi a goddefgarwch, gwrando gweithredol ac ymlacio, ymhlith rhai ohonyn nhw
Cynllun
Mae pob unigolyn rydym yn ei gefnogi yn cyfrannu tuag at ei gynllun personol ei hun. Gwneir hyn drwy ddefnyddio dull cyfathrebu o ddewis yr unigolyn, fel ein bod yn sicr bod ganddo ddealltwriaeth a pherchnogaeth o’i gynllun.
• Pwy - Rhaid bod y system gweithiwr allweddol, tîm amlddisgyblaethol a gweithiwr cysylltiol yn ei lle i gefnogi a monitro’r cynllun. Dylai’r gweithrediadau fod yn gytunedig, yn rhestredig, yn arsylledig ac yn fesuradwy. Dyma lle mae cyfrifoldeb yn disgyn am ganiatâd, cynhwysedd a chyfathrebu. • Beth - Mae gweithrediadau cynlluniedig yno i fynd i’r afael ag ymddygiadau ac i ddysgu dull newydd, ac mewn rhai achosion, dull mwy addas o ymddwyn. • Lle - Mewn amgylchedd lleiaf cyfyngol. • Pryd – Trwy gydol yr amser y bydd yr unigolyn yn cael cefnogaeth gennym ni a thu hwnt. Mae’n strwythur i’w diwrnodau ac yn sylfaen i’w bywydau cyhyd ag y byddwn ni'n gallu ei gyflenwi. • Sut - Trwy ddefnyddio’r dull cyfathrebu mwyaf addas i’r unigolyn hwnnw, a thrwy gael strwythur ym mhopeth rydym ni'n ei wneud – y drefn feunyddiol, llinellau-amser, amcanion a chyfyngiadau.
Adnoddau
• Lefelau priodol o staff cefnogi gydag arbenigedd, dealltwriaeth a pharodrwydd i ofalu, dysgu a datblygu ochr yn ochr â’r rheiny rydym ni'n eu cefnogi. Gwaith tîm, egni, hunan ddisgyblaeth a phenderfyniad positif yw’r prif adnoddau sydd eu hangen i gyflenwi Dull CDERTGC. Mae adnoddau sydd eu hangen i weithredu’r cynllun gofal yn barod yn eu lle neu fe ellir eu cael. Cyfuniad yw’r rhain o offer, pobl, gwybodaeth a sgiliau.
• Hylendid personol, siopa, paratoi prydau bwyd, glanhau, golchi dillad ayb. • Coleg a mynediad i hyfforddiant arall, llyfrgelloedd, campfa neu nofio • Ffrindiau, teulu, eiriolwyr, gofalwyr blaenorol, a'r rheiny all helpu i symbylu a chael eu cynnwys i weithredu’r cynllun. • Mynediad i staff clinigol arbenigol; Nyrsys, Seiciatryddion, Seicolegwyr, Meddygon Teulu, Therapyddion Galwedigaethol, Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Therapyddion Ymddygiad, Gweithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Proffesiynol Addysg.
Gweithredu
Er mwyn gweithredu’r cynllun fel y cytunwyd, mae cysondeb a chyfathrebu’n hanfodol; rhaid rhannu adborth am yr holl anawsterau, newidiadau a llwyddiannau. Mae’r gwiriadau cysondeb yno i sicrhau bod y cynllun yn cael ei ddilyn a bod yr holl bobl sy’n gyfrifol amdano’n parhau’n bositif ac wedi eu symbylu.
• Os nad yw pethau’n gweithio, peidiwch â bod ag ofn addasu, cydnabyddwch nad yw pethau wedi gweithio neu adolygwch eich dull. Mae dull ‘peidio â beio’ MHC yn ein helpu i ganolbwyntio ar amcanion realistig, cyflawniad a llwyddiant. Mynegwch eich pryderon neu argymhellion er mwyn newid. • Dylid nodi’n ysgrifenedig, cofnodi a hysbysu'r TADd am unrhyw newidiadau i gynllun, ond yn bwysicach fyth, rhaid hysbysu’r unigolyn rydym yn ei gefnogi a rhoi’r rhesymau dros hynny. • Sicrhewch fod y broses adolygu yn ei lle ac adolygiadau yn cael eu rhestru ac yn cael eu dilyn. • Gall cynllun ei derfynu os tybir ei fod yn niweidiol.
Gwerthuso
Beth mae cynnydd yn ei olygu i’r unigolyn hwn? Penderfynir ar gynnydd, effeithiolrwydd ac ansawdd cynllun gofal pob unigolyn drwy ddefnyddio mesurau cynnydd unigol, adolygiadau gwasanaeth cyfnodol a gwaith amlddisgyblaethol. Mae’r bobl rydym ni’n eu cefnogi’n ganolbwynt i’r dull hwn, ac felly byddwn yn gwerthuso drwy edrych ar y rhyngweithiad rhwng atafaeliad craidd neu hunan-barch isel ac effaith atafaeliad yn erbyn amgylcheddau, sgiliau staff, strwythur a’r cyfleoedd i ddysgu, datblygu a bod yn berchen ar eu gofod eu hunain. Prosesau sy’n ein helpu i werthuso yw:
• Yr unigolyn rydym yn ei gefnogi • Pobl allweddol yr unigolyn • Adolygiad Gwasanaeth Cyfnodol • Data gwaelodlin a chynyddol • Adolygiad DRhG a gwerthuso
Argymell
Mae TADd MHC yn cyfarfod ac yn ystyried cynnydd, data AGC ac unrhyw anawsterau mae’r rhaglen yn achosi i’r claf. Canolbwyntir ar bob rhan o’r model, o’r asesiad hyd at yr argymhellion. Gall y cynllun gael ei addasu ar unrhyw gam yn y broses, ac os credir bod angen ail-werthuso a dechrau eto, yna anogir hyn. Ym mhob cam o’r broses, mae’r unigolyn rydym yn ei gefnogi yn rhan o’i gynllun. Croesewir awgrymiadau, gwrandewir arnynt ac fe’u hychwanegir i’r cynllun lle bo’n briodol. Mae aelodau’r teulu, cyfeirwyr, gweithwyr cymdeithasol a phobl allweddol eraill yn ganolog ac ynghlwm yng ngweithredu'r cynllun. Mae’n briodol felly eu bod yn gyfarwydd â’r argymhellion a datblygiadau’r cynllun yn y cam DRhG. Canfyddir argymhellion a’u cofnodi ar ffurflenni DRhG.
"Fel arfer mae ymddygiad yn gwasanaethu swyddogaeth gyfathrebol. Rhaid ei ddeall, ei ddysgu a’i ddatblygu fel unrhyw iaith."

