"gofal iechyd ac adferiad arbenigol wedi’i ffocysu ar ganlyniadau"

Hyfforddiant

Mae MHC wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl ddefnyddiwr gwasanaeth a chleifion yn derbyn ansawdd gofal o’r radd flaenaf bob amser.  Deallwn mai hyfforddi a datblygu staff yw’r allwedd i gyflawni’r ymrwymiad hwn, a sicrhau bod awdurdodau lleoli’n cael yr ansawdd a’r gwerth am arian, a'r canlyniadau y dymunant.

Yn ogystal â darparu'r hyfforddiant gorfodol, mae MHC wedi ymrwymo i annog staff i ddatblygu eu gwybodaeth a’u harbenigedd drwy hyfforddiant cydnabyddedig prifysgol benodol a ariennir gan MHC neu drwy ddiwrnodau hyfforddi mewnol ac allanol a drefnir yn rheolaidd ac a roddir gan arbenigwyr yn eu maes.

Mae’r amrediad o gyfleoedd hyfforddi a gynigir gan MHC yn dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff a’n gwasanaethau.  Canlyniad hyn yn y diwedd yw cadw staff, ymyriad mwy effeithiol ar gyfer cleifion a defnyddwyr gwasanaeth, a diwylliant dysgu a datblygiad personol.