"gofal iechyd ac adferiad arbenigol wedi’i ffocysu ar ganlyniadau"

Bwrdd Ymgynghorol Cymru

Sefydlwyd Bwrdd Ymgynghorol Cymru, MHC ar ddiwedd 2008 , er mwyn rhoi mewnbwn gwrthrychol i’r broses reolaeth gorfforaethol a chlinigol a fabwysiadwyd gan uwch dîm rheoli’r MHC (UK) Ltd.

Mae 9 aelod ar y Bwrdd, 6 ohonynt nad ydyny yn cael eu cyflogi gan MHC.  Mae gan bob un gefndir amrywiol sy’n cynnwys y byd academaidd,  Gwleidyddiaeth, gorfodaeth gyfreithiol, cysylltiadau cyhoeddus a phrofiad yn y sector gwirfoddol.  Y tri aelod a gyflogir gan MHC yw’r Cyfarwyddwr Rheoli, Cyfarwyddwr Trefn Lywodraethol a’r Rheolwr, a nhw sy’n gyfrifol am oruchwylio’r berthynas rhwng y gwasanaeth eirioli allanol.

Er bod rôl y Bwrdd Ymgynghorol yn amrywio, ei brif waith yw sicrhau bod MHC yn mabwysiadu safonau uchel trefn lywodraethol gorfforaethol a chlinigol. Mae hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod barn y defnyddwyr gwasanaeth, y cleifion a’r staff yn cael ei chlywed er mwyn ymgorffori hyn yn natblygiad y gwasanaeth yn y dyfodol.

Er mwyn cyflawni hyn, mae 2 aelod o’r Bwrdd Ymgynghorol wedi dod yn Ymwelwyr Lleyg yn ddiweddar, ac maen nhw bellach yn ymweld â gwasanaethau yn rheolaidd ac yn adrodd yn ôl i’r Bwrdd.

Bwriedir i’r Bwrdd Ymgynghorol gynhyrchu adroddiad blynyddol yn rhoi manylion am eu gweithgareddau a’u hardaloedd unigol y mae a wnelo â nhw, a bydd hyn ar gael ar wefan MHC.