"Amgylcheddau diogel wedi eu strwythuro ar gyfer unigolion"

Trosolwg

Mae Gofal Iechyd Meddwl (MHC) yn ddarparwr gwasanaethau sector annibynnol blaenllaw, arbenigol, mewn iechyd meddwl, iechyd meddwl fforensig ac anableddau dysgu o fewn ysbytai annibynnol a gwasanaethau preswyl.

Wedi ei ganolbwyntio ar adferiad a chefnogaeth, ein nod yw rhoi gwasanaeth o ansawdd sydd yn cwrdd ag anghenion cleifion, cleientiaid a phrynwyr. Cyflawnwn hyn drwy roi pwyslais ar anghenion dynol sylfaenol e.e. perthynas rhyngbersonol, gonestrwydd ac urddas.

Rydym ni'n dal i fuddsoddi mewn datblygu gwasanaethau newydd fel ymateb i anghenion defnyddwyr gwasanaethau a gofynion y diwydiant gofal. Daliwn i fod yn flaengar yn ein dull o gyflawni gwasanaethau arbenigol mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Rydym ni'n arbenigo mewn helpu pobl i addasu ac ymdopi â'u hanghenion a'u hymddygiadau cymhleth.

Mae gan MHC dros 25 mlynedd o brofiad mewn darparu gwasanaethau cost effeithiol o ansawdd uchel, gwasanaethau gofal iechyd arbenigol, canlyniadol ac adferol i bobl â phroblemau iechyd meddwl, anhwylderau personoliaeth, anableddau dysgu, ymddygiadau heriol arwyddocaol, ac anghenion cymhleth cysylltiol.

Mae MHC yn ymfalchïo yn yr hyn a alwn ni yn 'ddycnwch', sydd yn golygu agwedd bositif, cysondeb a dyfalbarhad, a thimau staff sy’n cynnig ymrwymiad a sefydlogrwydd i'r rheiny rydym yn eu cefnogi, cyhyd ag y byddant ei angen.

Oherwydd y dull hwn, mae mwyafrif y cleifion a'r defnyddwyr gwasanaeth yn dangos cynnydd positif lle nad oedd hyn yn bosibl o'r blaen, o fewn eu hamgylchedd cartref neu mewn gwasanaethau eraill.