"Mae pob defnyddiwr gwasanaeth a chlaf yn unigolyn yn ei hawl ei hun"
Gweithiwch Gyda Ni
Ein hased mwyaf yw ein staff
Mae MHC wedi ymrwymo, ac yn ymfalchïo mewn darparu gofal o’r ansawdd uchaf i’w holl ddefnyddwyr gwasanaeth. Gwasanaeth pwrpasol yw hwn, wedi ei deilwrio i anghenion yr unigolyn.
Byddai’n amhosibl darparu’r lefel hwn o wasanaeth heb waith caled ac ymrwymiad yr holl weithwyr.
Mae darparu gwaith o’r safon hon yn golygu denu a chadw staff o’r ansawdd uchaf, ond rydym yn gwybod nad yw recriwtio’r bobl orau ynddo’i hun yn ddigonol. Rydym yn deall hefyd bod hyfforddiant a datblygiad ein staff yn allweddol i gadw'r lefel gwasanaeth rydym yn gwybod fod ein defnyddwyr gwasanaeth yn ei ddisgwyl ac yn ei deilyngu.
Mae ehangder a dyfnder yr hyfforddiant mae MHC yn ei gynnig yn rhan hanfodol o sicrhau bod ein staff yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i reoli rhai o’r ymddygiadau mwyaf heriol a welir y tu allan i’r gwasanaethau cadarn.
Mae’r holl wasanaethau a ddarperir gan MHC wedi eu cynllunio o amgylch y cleient unigol. Mae’r unigoliaeth hwn yn cael ei adlewyrchu yn yr hyfforddiant teilwredig a ddarperir ar gyfer ein staff.
Credwn y dylai’r holl brofiad gwaith fod yn foddhad ac yn fwynhad. Rydym yn credu mewn gonestrwydd, ymrwymiad a chwerthin, a phan gyfunir y rhinweddau yma gydag addysg, profiad gwaith, sgiliau bywyd a’n hyfforddiant a datblygiad parhaus, yna ffurfir perthynas ddeinamig, y gallwn ei feithrin a’i thrysori.
Sefydlu
Ein hymrwymiad yw cefnogi staff gyda rhaglen sefydlu ddwys yn ystod pythefnos cyntaf cyflogaeth. Mae hwn yn dilyn Fframwaith Gwobrau Anabledd Dysgu ac yn cwrdd ag anghenion Deddf Safonau Gofal 2000 yn llawn.
Rydym yn parhau i ddarparu rhaglenni hyfforddiant a datblygiad ar gyfer staff, nid yn unig i sicrhau eu bod yn gwella eu sgiliau o fewn eu rolau hanfodol, ond hefyd eu galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd gyrfaol amrywiol o fewn MHC.
Hyfforddiant Rheoli
Rydym yn cydnabod bod ein staff yn chwarae rhan annatod yn lles, cynnydd ac ansawdd bywyd ein cleifion a’n preswylwyr.
Felly, rydym yn adolygu cwmpas ac ansawdd sgiliau rheoli ac yn rhoi adnoddau a’r hyfforddiant mwyaf priodol.
Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol: NVQ
Anogir ein holl staff cefnogi i ddechrau ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 (os nad oes cymhwyster yn barod). Rydym hefyd yn cefnogi staff drwy:
- NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- NVQ Lefel 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gwobr Rheolwyr Cofrestredig

