"Mesurau cynnydd unigol, adolygiadau gwasanaeth cyfnodol a gwaith amlddisgyblaethol"
Lle rydym ni - Nghymru
Plas Coch Independent Hospital
Mae Ysbyty Annibynnol Plas Coch wedi ei leoli ar gyrion dinas hardd Llanelwy, sydd ar lan Afon Elwy.
Mae Llanelwy yn agos i briffordd A55 ac o fewn cyrraedd trefi glan y môr, Parc Cenedlaethol Eryri a dinas Caer.
Mae’r adeilad rhestredig Gradd II wedi ei leoli o fewn ei diroedd eang, ac mae hyn yn rhoi digon o le a chyfleoedd i’r cleifion ar gyfer gweithgareddau awyr agored.
Grŵp Cleifion a Meini Prawf Derbyn
Gwasanaeth arbenigol un-pwrpas ar gyfer menywod yn unig yw Ysbyty Annibynnol Plas Coch, sydd wedi ei gofrestru i dderbyn cleifion benywaidd rhwng 19-60 oed, gyda diagnosis sylfaenol o broblemau iechyd meddwl parhaol megis anhwylder personoliaeth triniaeth-ymwrthol.
Mae mwyafrif helaeth o’n cleifion, sy’n dioddef o anawsterau seicolegol cymhleth hefyd, â hanes o drawma seicolegol. Gall yr unigolion feddu ar anhwylderau cysylltiol megis ymddygiad hunan-niwed, camddefnyddio sylweddau, anhwylderau bwyta ac anableddau dysgu ffiniol i ganolig. Yn ychwanegol, gall rhai cleifion fod â hanes fforensig ac yn cael eu cadw dan orchymyn o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Meddwl.
Mae Plas Coch yn darparu rhaglen ofal deilwredig unigol rhyw-benodol yn seiliedig ar y dechrau ar y drefn gyn-dderbyniad.
Mae’r holl dderbyniadau’n cael cyfnod 12 wythnos o asesiad grymus, sy’n cynnwys gofal a chyfarfodydd adolygu Triniaeth, a fformiwleiddio cynlluniau Triniaeth gan y TADd (MDT). Ar ddiwedd y cyfnod hwn, cynhyrchir llwybr gofal, cynhwysfawr, unigol yn cwmpasu holl agweddau’r driniaeth ac adferiad gydag amcanion a chanlyniadau diffiniedig.
Yn ystod y broses adfer, darperir cefnogaeth er mwyn galluogi’r cleifion i gyrraedd eu lefel mwyaf hyderus, a’r sgiliau a’r addysg sydd eu hangen ar gyfer bywyd mwy annibynnol.
Y Gwasanaeth a’r Tîm Staff
Mae Plas Coch yn cynnwys tair ward arbenigol ar wahân:
- Mae Ward Dinorben yn wasanaeth adfer 6 gwely gyda chefnogaeth nyrsio ddwys. Mae’r gwasanaeth drws ar glo hwn yn darparu asesiad dwys, triniaeth a chefnogaeth.
- Mae Ward Morfa yn ward adfer ddwys 10 gwely ar gyfer cleifion a ystyrir yn barod i dderbyn asesiad triniaeth barhaus wrth baratoi ar gyfer mwy o annibyniaeth.
- Mae’r Coach House, sydd ar wahân i’r prif adeilad, yn darparu gofal parhaus ar gyfer y cleifion hynny sy’n barod i symud ymlaen o amgylchedd ysbyty.
Mae gan Plas Coch dîm amlddisgyblaethol dwyieithog, cynhwysfawr a phrofiadol iawn sy’n cynnwys, Rheolwr Ysbyty, Nyrs Glinigol Arbenigol, Seicolegydd Cynghori, Seicotherapydd, Tîm Nyrsio, Therapydd Galwedigaethol, Gweithiwr Cymdeithasol, tîm cefnogi llawn amser, a Seiciatrydd Ymgynghorol, sydd â phrofiad fforensig eang o fewn gwasanaethau cadarn benywaidd
Mae gwasanaeth staffio uchel wedi ei gynllunio, nid yn unig ar gyfer y cleifion hynny sydd wedi derbyn gofal mewn cyfleusterau cadarn ac nad ydynt bellach angen y fath ddarpariaeth, ond hefyd ar gyfer y bobl hynny sydd angen derbyniad tymor byr o wasanaethau cymunedol.
Mae’r ysbyty hefyd yn elwa o Adran Therapi Galwedigaethol sy’n canolbwyntio ar greu strwythur a chydbwysedd rhwng hunanofal, hamdden a gweithgarwch ar gyfer yr holl gleifion ym Mhlas Coch.
Back to nghymru

