"gofal iechyd ac adferiad arbenigol wedi’i ffocysu ar ganlyniadau"

Lle rydym ni - Nghymru

St Davids Independent Hospital

St Davids Independent Hospital - photo 1
Carrog, Corwen, Denbighshire

Tel: 01490 430288

Adeilad mawr ar wahân yw St David's, wedi ei leoli mewn gerddi wedi eu tirlunio ar gyrion pentref tawel Carrog, ger Corwen yn Nyffryn prydferth Dyfrdwy. Mae St David's oddeutu 7 milltir o dref Llangollen, cartref yr Eisteddfod Ryngwladol enwog. Ychydig ymhellach i ffwrdd mae tref Wrecsam a threfi Caer a Lerpwl.

Grŵp Cleifion a Meini Prawf Derbyn

Gwasanaeth 15-gwely ar gyfer dynion yn unig yw St David's, sy’n darparu gofal ac adferiad ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu ffiniol i ganolig, â diffygion amlwg mewn sgiliau ymaddasol a chymdeithasol. Mae St David's hefyd yn cefnogi unigolion ag anableddau dysgu, yn ogystal efallai â chyflwr eilaidd megis anawsterau ymddygiad/ymddygiad heriol, problemau iechyd meddwl, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd neu epilepsi.

Mae St. David’s yn cyflenwi dwy brif swyddogaeth:

  • adfer cleifion sy’n gadael gwasanaethau diogel neu lym. Nid oes angen cefnogaeth gorfforol ar y mwyafrif o gleifion ond nid ydynt yn barod i ddychwelyd i’w cymunedau. Mae St David's yn darparu’r amgylchedd, gofal a’r gefnogaeth angenrheidiol ar gyfer cleifion er mwyn pontio’r bwlch hwn. O ganlyniad, rydym yn hapus i dderbyn atgyfeiriadau ar gyfer cleifion sydd wedi eu hatgyfeirio o dan orchymyn yn ôl Deddf Iechyd Meddwl 1983.
  • cynorthwyo cleifion pan mae eu lleoliad presennol yn anaddas iddynt oherwydd eu hymddygiadau heriol. Mae angen amgylchedd sefydlog a chefnogol ar y grŵp yma o gleifion, lle gellir mynd i’r afael ag ymddygiadau heriol a’u haddasu.

Y Gwasanaeth a'r Tîm Staff

Mae’r gwasanaeth cadarn a ddarperir yn St David’s yn canolbwyntio ar ryddhau, gan anelu tuag at gael y claf i ennill annibyniaeth a chydweithio’n agos ag awdurdodau lleoli i gyrraedd yr amcanion hyn. Ar ddiwedd y broses asesiad 12-wythnos, canfyddir llwybr gofal clir fydd yn cynnwys nodau a chanlyniadau penodol ar gyfer symud tuag at fywyd annibynnol.

Mae’r driniaeth wedi ei chynllunio i hybu datblygiad sgiliau ymaddasol a chymdeithasol fydd yn arwain at annibyniaeth ac ymreolaeth. Rhaglen ymddygiadol strwythuredig sy’n defnyddio rhaglenni unigol atgyfnerthu positif fydd y brif fodel driniaeth a ddefnyddir i ddatblygu a chynnal sgiliau cymdeithasol ac ymaddasol.

Bydd cyflenwad llawn o therapïau seiciatrig, seicolegol a nyrs yn cynnwys Therapi Ymddygiad Gwybyddol a Therapi Person-Ganolog yn cael eu cynnig i gleifion ag anawsterau penodol. Fel enghraifft o hyn, bydd claf sydd â hanes o ymddygiad ymosodol yn cael cynnig cwrs strwythuredig rheoli dicter wedi ei gynllunio’n benodol ar gyfer anghenion yr unigolyn. Cynigir rhaglenni therapiwtig i’r holl gleifion

Mae Canolfan Gweithgareddau wedi ei adeiladu’n bwrpasol o fewn gerddi St David's yn wasanaeth therapi galwedigaethol, ac yn darparu ystod eang o weithgareddau therapiwtig.

Nod y tîm yw gweithio mewn partneriaeth â’r holl ddefnyddwyr gwasanaeth, er mwyn eu galluogi i ddatblygu neu gynnal eu sgiliau perfformiad galwedigaethol a rolau sydd wedi cael eu heffeithio gan eu hiechyd meddwl neu unrhyw anabledd arall. Mae ymrwymiad i driniaeth Therapi Galwedigaethol yn hybu lles a chydbwysedd rhwng cynhyrchaeth, hunanofal a gweithgareddau hamdden.

Mae tîm staff St David's yn dangos agwedd oddefgar, empathig a phositif tuag at gleifion. Mae sefydlu cysylltiadau therapiwtig rhwng y claf a’r tîm staff yn rhan hanfodol o adferiad y claf, ac yn tanategu gwasanaeth holistig rydym yn cynnig yn St David’s.

Back to nghymru