"Cefnogi pobl fregus mewn amgylchedd sefydlog, gofalus a phwrpasol"

Lle rydym ni - Nghymru

The Beeches

The Beeches - photo 1
Llandyrnog, Denbighshire

Tel: 01824 792125

Cartref cymysgryw yw The Beeches ar gyfer 6 o bobl sydd â diagnosis anableddau dysgu canolig i ddifrifol, ac anhwylder sbectrwm Awtistig i ryw raddau.

Mae The Beeches wedi ei leoli o fewn tiroedd tirluniedig Highfiels Park, Llandyrnog, yn ymyl Dinbych. Mae’r Park oddeutu 6 milltir o Ddinbych, tref hanesyddol â’i chastell ei hun, ac 20 milltir o Rhyl a Phrestatyn, trefi arfordirol poblogaidd Gogledd Cymru. Ychydig ymhellach i ffwrdd mae dinasoedd Lerpwl a Chaer, a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Trosolwg

Mae MHC wedi darparu cymorth a chefnogaeth gyson i bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd, o fewn eu gwasanaethau. Mae'n wasanaeth sydd wedi bod, ac yn parhau i fod yn hygyrch, yn ddibynadwy ac yn gwneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl.

Grŵp Cleientiaid a Meini Prawf Derbyn

Mae ein gwasanaethau'n cynnig gofal a chefnogaeth i unigolion rhwng 18-65 oed sydd wedi eu diagnosio o fewn amrediad llawn anhwylder sbectrwm awtistig.

Y Gwasanaeth a'r Tîm Staff

Mae'r tîm staff yn cael ei gefnogi, ei hyfforddi a'i annog i barchu gwahaniaethau cymdeithasol, cyfathrebol a synhwyraidd pobl, yn ogystal â llawer agwedd arall o'u hanghenion ymddygiadol a’u bywyd bob dydd. Cefnogir hyn ymhellach gan y tîm clinigol amlddisgyblaethol, yn cynnwys Seiciatrydd Ymgynghorol, Seicolegydd Clinigol, Nyrs Glinigol Arbenigol, Therapydd Galwedigaethol, a thîm cefnogaeth lawn, yn ôl yr angen.

Cefnogwn y prif themâu, sef iechyd, cynhwysiad cymdeithasol, dewis a rheoli, codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant, a mynediad i hyfforddiant a chyflogaeth

Back to nghymru