"Y dull CDERTGC lle gall pawb ohonom helpu i wireddu gobeithion, breuddwydion a llwyddiannau pobl"
Lle rydym ni - Nghymru
Holland House
Mae Holland House wedi ei leoli yn nhref marchnad Dinbych, Dyffryn Clwyd. Tŷ teras sy’n ffurfio math o broject craidd a chlwstwr, gyda thri thŷ teras dwy-ystafell wely ychwanegol gerllaw.
Mae’r cartrefi’n agos at ganol y dref, ac mae gan y dref gyfleusterau arferol tref farchnad fechan. Mae’r cludiant cyhoeddus da yn rhoi mynediad hawdd i’r briffordd A55 a chysylltiad rhwydwaith gyda gweddill y wlad.
- 11 ystafell wely sengl
- Gwasanaeth cymunedol a chyfleusterau lleol agos
- Awyrgylch cartrefol
Grŵp Cleientiaid a Meini Prawf Derbyn
Mae Holland House a’i gylch-gartrefi wedi ei gofrestru ar gyfer darparu gofal i hyd at 11 oedolyn sydd â diagnosis sylfaenol anhwylder meddwl, fel seicosis a achosir gan alcohol a chyffuriau, sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn. Mae nifer o’r defnyddwyr gwasanaeth hefyd yn dangos ymddygiadau fel hunan-niwed.
Fel Avalon, mae hefyd yn darparu gwasanaeth cam-i-lawr ar gyfer cleifion o’n hysbytai annibynnol sy’n barod i symud ymlaen i fyw bywyd mwy annibynnol fel rhan o’u rhaglen adfer.
Y Gwasanaeth a’r Tîm Staff
Nod Holland House yw adfer defnyddwyr gwasanaeth i fywyd cymunedol llawn. Mae’r gwasanaeth preswyl hwn yn cynnig rhaglenni strwythuredig therapiwtig i helpu’r broses adfer hon trwy alluogi defnyddwyr gwasanaeth i gael mynediad i addysg bellach a lleoliadau gwaith ystyrlon ac ymarferol. Maen nhw’n datblygu sgiliau a strategaethau i’w helpu i gyrraedd eu potensial llawn mewn lleoliad sydd fwyaf addas iddyn nhw.
Drwy ehangu eu rhwydwaith o ffrindiau a chydweithwyr, maen nhw’n gallu datblygu eu sgiliau cymdeithasol i’w helpu i fyw bywyd llawn a diddorol.
Mae’r tîm staff yn Holland House wedi ei symbylu, ac yn brofiadol wrth ddelio ag anghenion amrywiol y grŵp cleient. Maen nhw’n derbyn hyfforddiant sydd wedi ei deilwrio i reoli ymddygiadau cymhleth ac yn cydweithio’n agos â’r tîm clinigol er mwyn cynllunio strategaethau unigol i helpu ymdopi a’r rheiny sy’n herio’r gwasanaeth.
Back to nghymru

