"Cefnogaeth staff ag arbenigedd, dealltwriaeth a’r awydd i ofalu, dysgu a datblygu ochr yn ochr â’r rhai rydym ni’n eu cefnogi"

Lle rydym ni - Nghymru

Grove Hall

Grove Hall - photo 1
Bodfari, Denbighshire

Tel: 01745 710601

Tŷ Edwardaidd yn y wlad ydi Grove Hall, yn edrych i lawr ar Ddyffryn hardd Clwyd, ac yn agos at dref gaerog Dinbych. Mae’r tŷ o fewn cyrraedd i briffordd yr A55 sy’n cysylltu â’r rhwydwaith traffyrdd a threfi glan y môr Gogledd Cymru.

Mae Grove Hall tua 8 milltir o dref hanesyddol Dinbych, gyda’i gastell ei hun, ac 20 milltir o drefi glan y môr poblogaidd Prestatyn a Rhyl. Ychydig ymhellach i ffwrdd mae dinasoedd Caer a Lerpwl.

  • Tŷ Edwardaidd yn y wlad
  • Wedi ei leoli mewn cefn gwlad brydferth
  • Athroniaeth ‘Cartref am byth’

Grŵp Cleientiaid a Meini Prawf Derbyn

Mae Grove Hall wedi ei gofrestru ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu. Yn unol ag athroniaeth ‘Cartref am Byth’ Grove Hall, mae llawer o’n defnyddwyr gwasanaeth dros 65 oed, a phawb dros 50 oed.

Y Gwasanaeth a’r Tîm Staff

Mae awyrgylch teuluol da yn amlwg bob amser yn Grove Hall, a sonnir am hyn yn aml gan ymwelwyr.

Mae pob defnyddiwr gwasanaeth yn elwa wrth fod ynghlwm â gweithgareddau defnyddiol, symbylus ac amrywiol. Rydym ni eisiau iddyn nhw fwynhau bywydau cymdeithasol diddorol ac i bwrpas, gyda chefnogaeth eu gofalwyr.

Mae gan y tîm staff cadarn brofiad blynyddoedd o weithio gyda’r grŵp cleientiaid bregus hwn, a chefnogir hwy gan dîm amlddisgyblaethol MHC. Mae ein hathroniaeth wedi rhoi awyrgylch cyfeillgar, hamddenol, ymlaciol ond eto’n llawn parch yn Grove Hall; mae hyn yn rhywbeth mae’r Rheolwr a’r staff yn ei hybu’n gyson, ar bob achlysur.

Rydym ni’n o’r farn bod ein dull proffesiynol ond ymlaciol, ynghyd â’r parch tuag at y bobl rydym ni’n eu cefnogi, yn ein helpu i gyfoethogi bywydau pob defnyddiwr gwasanaeth yn Grove Hall.

Back to nghymru